West Bromwich Albion 1-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Fe sicrhaodd gôl hwyr gan Salomon Rondon yn yr amser ychwanegol bwynt i West Brom, gan amddifadu Francesco Guidolin o'i ail fuddugoliaeth fel rheolwr Abertawe.
Daeth gobaith i'r Elyrch yn yr ail hanner, wrth i ergyd gan Gylfi Sigurdsson o 12 llath allan, roi Abertawe ar y blaen.
Ond, wedi i Saido Berahino ddod oddi ar y fainc, dim ond diwrnod ar ôl i Albion, wrthod cynnig o £21m gan Newcastle am yr ymosodwr, fe sgoriodd wedi 92 munud.
Mae West Brom yn symud i'r 13eg safle, tra bod Abertawe yn disgyn i'r 16eg safle yn Uwchgyngrair Lloegr.