Chwe Gwlad: Cyhoeddi tîm Cymru i herio Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Bydd prop y Scarlets, Rob Evans, yn dechrau i Gymru yn erbyn Iwerddon yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Nulyn ddydd Sul.
Mae'n golygu bod y chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau yn hanes rygbi Cymru, Gethin Jenkins, yn dechrau ar y fainc.
Bydd y capten Sam Warburton yn dechrau fel blaenasgellwr ochr dywyll, gyda Justin Tipuric yn chwarae fel rhif 7 a Dan Lydiate ar y fainc.
Gareth Anscombe fydd yn dechrau fel cefnwr, gyda Tom James wedi'i ddewis o flaen Alex Cuthbert ar yr asgell.
Profiad ar y fainc
Does dim lle yn y garfan i gefnwr y Scarlets, Liam Williams, wnaeth wneud ei ymddangosiad cyntaf ar ôl dod 'nôl o anaf dros y penwythnos.
Mae Warburton yn dechrau er mai dim ond awr o rygbi y mae wedi chwarae ers mis Tachwedd, tra bo James yn gwneud ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ers 2010.
Gyda phrofiad Jenkins, Lydiate a Cuthbert ar y fainc, mae'r wyth eilydd wedi ennill cyfanswm o 364 o gapiau.
Cennydd Davies sydd wedi bod yn dadansoddi dewisiadau Warren Gatland
Tîm Cymru: Gareth Anscombe (Gleision); George North (Northampton), Jamie Roberts (Harlequins), Jonathan Davies (Clermont), Tom James (Gleision); Dan Biggar (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Racing 92), Alun Wyn Jones (Gweilch), Sam Warburton (capten) (Gleision), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Gethin Jenkins (Gleision), Tomas Francis (Caerwysg), Bradley Davies (Wasps), Dan Lydiate (Gweilch), Alex Cuthbert (Gleision), Rhys Priestland (Caerfaddon), Lloyd Williams (Gleision).
Tîm Iwerddon: Simon Zebo; Andrew Trimble, Jared Payne, Robbie Henshaw, Keith Earls; Jonathan Sexton, Conor Murray; Jack McGrath, Rory Best (capten), Nathan White, Mike McCarthy, Devin Toner, CJ Stander, Tommy O'Donnell, Jamie Heaslip.
Eilyddion: Sean Cronin, James Cronin, Tadhg Furlong, Donnacha Ryan, Rhys Ruddock, Kieran Marmion, Ian Madigan, Dave Kearney.
Gemau Cymru yn Y Chwe Gwlad
Iwerddon v CYMRU - Dydd Sul, 7 Chwefror (Stadiwm Aviva, 15:00)
CYMRU v Yr Alban - Dydd Sadwrn, 13 Chwefror (Stadiwm Principality, 16:50)
CYMRU v Ffrainc - Dydd Gwener, 26 Chwefror (Stadiwm Principality, 20:05)
Lloegr v CYMRU - Dydd Sadwrn, 12 Mawrth (Twickenham, 16:00)
CYMRU v Yr Eidal - Dydd Sadwrn, 19 Mawrth (Stadiwm Principality, 14:30)
Bydd llif byw arbennig o Iwerddon v Cymru ar Cymru Fyw o 14:30 ddydd Sul, ac am fwy o gyffro'r Chwe Gwlad ewch i'n is-hafan arbennig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2016