Ewrop: Annog refferendwm ddiwedd 2016
- Cyhoeddwyd

Byddai cynnal y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn fuan wedi'r etholiadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fis Mai yn achosi "dryswch", yn ôl arweinwyr y llywodraethau datganoledig.
Mewn llythyr at David Cameron, mae'r arweinwyr - Carwyn Jones, Nicola Sturgeon ac Arlene Foster - yn annog Mr Cameron i gynnal y bleidlais tuag at ddiwedd y flwyddyn.
Mae sôn y byddai Mr Cameron yn ffafrio trefnu refferendwm ar gyfer 23 Mehefin.
Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, dywedodd Mr Cameron y byddai'r etholwyr yn gallu gwahaniaethu rhwng y refferendwm a'r etholiadau.
Ond yn y llythyr, mae'r arweinwyr dweud y byddai cynnal y ddwy bleidlais yn agos at ei gilydd yn achosi "dryswch pa fo angen eglurder."
Maen nhw hefyd yn dweud y byddai hi'n "amhosib" i'r pleidiau ymgyrchu a chydweithio ar gyfer y refferendwm yng nghanol eu hymgyrchoedd etholiadol.