A55: Gwaith o wella'r system ddraenio i ddechrau yn gynt
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r gwaith o wella'r system ddraenio ar yr A55 ger Bangor gael ei gwblhau yn gynt na'r disgwyl, meddai'r Prif Weinidog.
Dywedodd Carwyn Jones y bydd £500,000 yn ychwanegol ar gael wrth i'r gwaith o geisio lleihau llifogydd yn y dyfodol fynd rhagddo yn yr hydref.
Ar amod y bydd cytundeb gyda pherchnogion y tir rhwng cyffordd 12 a 13, y nod yw ei orffen 12 mis yn gynt na'r bwriad gwreiddiol.
Mae'r Prif Weinidog hefyd am gadarnhau y bydd gwaith ar wahân o liniaru llifogydd yn Nhal-y-bont, yn dechrau yn y gwanwyn, gyda'r gobaith o'i gwblhau cyn y gaeaf.
Daw cyhoeddiad Mr Jones yn dilyn llifogydd difrifol yn yr ardal wedi tywydd garw dros y Nadolig.
'Lleihau'r perygl'
Nid yw'r A55 ar hyn o bryd yn "ateb y gofyn", yn ôl Mr Jones, ac ni chafodd ei hadeiladu i "ddelio â llif traffig mor drwm".
Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Â bod yn berffaith onest, pe baem yn ei hadeiladu nawr, byddem yn gwneud pethau'n wahanol. O'r herwydd, mae angen datrys nifer o broblemau ar y ffordd hanfodol hon i'r gogledd iddi allu rhedeg yn esmwyth.
"Mae'r cynllun rhwng Abergwyngregyn a Thai'r Meibion yn brosiect gwerth £15m o welliannau ac mae angen llawer o waith cynllunio arno oherwydd ei faint."
Rhybuddiodd ei bod yn "hanfodol" gallu delio â glaw trwm yn y dyfodol, gan ddweud ei fod yn dymuno gweld "camau'n cael eu cymryd yn gynt".
"Rwy'n falch o fedru dweud y bydd cynllun Tal-y-bont yn dechrau yn y gwanwyn," meddai Mr Jones.
"Pan welais y llifogydd ar yr A55 ac yna cyfarfod â phobl Tal-y-bont a oedd wedi dioddef o'u herwydd, dywedais fod yr arian ar gael ar gyfer cynllun fyddai'n lleihau'r perygl iddo ddigwydd eto.
"Ar ôl trafod â Chyngor Gwynedd, mae'n dda gennyf ddweud y gallwn ddechrau ar y gwaith adeiladu ym mis Ebrill a'i orffen cyn i'r gaeaf gyrraedd."