Cau ffatri: 150 o swyddi yn y fantol
- Cyhoeddwyd

Bydd ffatri sy'n cyflogi 150 o bobl yn Sir Caerffili yn cau'r flwyddyn nesaf, wedi cadarnhad gan y perchnogion.
Bydd ffatri Penny and Giles yng Nghwmfelinfach yn cau yn ystod 2017.
Mae'r cwmni yn cynhyrchu cyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio mewn cerbydau masnachol a diwydiannol.
Mae'r cwmni, sy'n rhan o grŵp diwydiannol Curtiss-Wright, yn dweud mai'r sefyllfa economaidd sy'n gyfrifol am gau'r safle.