Gwleidyddiaeth: Diflas neu ddifyr i bobl ifanc?

  • Cyhoeddwyd
Susie Gale

Ar ddiwrnod cofrestru pleidleiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, digwyddiad i geisio annog pobl ifanc i fwrw pleidlais ym mis Mai, bu Cymru Fyw yn siarad â thri o bobl ifanc i glywed eu barn nhw....

Mae Susie Gale yn 22 oed ac wedi cael llond bol ar y system wleidyddol. Mae eisiau gweld "newid dramatig".

"Dwi ddim yn meddwl bod nhw {gwleidyddion} yn ymroi o'r galon," meddai. "Dwi ddim yn meddwl pan mae gwleidyddion yn siarad eu bod nhw'n siarad o safbwynt y bobl."

Mae Susie wedi pleidleisio o'r blaen ond "achos o'n i'n teimlo y dylen ni yn hytrach na rhyw dynfa neu ddyhead i wneud ar gyfer unigolyn arbennig fyddai'n gwella'r wlad ac yn gwella safonau byw.

"Mae'n teimlo fel dim ots beth, chi mynd i gael pobl gyda'r bwriadau gorau ond maen nhw'n gorfod cyfaddawdu felly does 'na ddim byd yn cael ei wneud go iawn."

Beth fyddai hi'n gwneud os byddai'n brif weinidog?

"I fod yn brif weinidog bydde'n rhaid i fi fod yn rhan o'r system. Y system yw'r broblem. Mi fydden ni yn cael, heb swnio fel Russell Brand, chwyldro o syniadau o ran y ffordd mae'r system yn gweithio fyddai yn dasg anodd...Mi fydden i jest yn bod yn fwy dyngarol...canolbwyntio ar y stwff llawr gwlad, yr agweddau cymdeithasol a gadael y cytundebau masnachol ar gyfer China."

"Mae honna yn ddadl eithaf hen nawr fi'n credu. Odd pawb yn dweud hwnna yn 2010," meddai Theo Davies-Lewis pan mae'r cwestiwn yn cael ei ofyn iddo, 'a yw'r pleidiau gwleidyddol yn rhy debyg i'w gilydd'.

"O'n nhw'n dweud 'I agree with Nick' yn y dadleuon teledu. O'dd hynna yn wir. Nawr ni'n gwybod bod gwahaniaeth enfawr gyda'r Ceidwadwyr a Llafur yn y Deyrnas Unedig...

"A Leanne Wood a Carwyn Jones - maen nhw'n bobl wahanol, pleidiau gwahanol, ac yn edrych ar ddyfodol Cymru yn wahanol...Maen nhw'n gwybod bod nhw ddim jest yn gallu copïo ei gilydd nawr. A ma' rhaid iddyn nhw sefyll allan. Ni wedi gweld hwnna gyda UKIP."

Mae Theo, sydd yn 18 oed, yn teimlo'n gryf bod hi'n bwysig i bobl bleidleisio gan ddweud mai dyma'r ffordd hawsaf i weld gwahaniaeth. Ond wrth ofyn iddo ddisgrifio gwleidyddion a gwleidyddiaeth mae'n dweud bod "lot ohono fe yn actio".

"Mae'n swnio yn wael i fod yn onest ond 'na beth yw e. Fyddan nhw byth yn gweud hwnna. Ond beth ma nhw yn gweud? 'Politics is the drama of ugly people'."

Dim ond yn ddiweddar mae Lara Rowlands wedi dechrau ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Dod yn fam i efeilliaid oedd y 'trobwynt' yn ei bywyd.

"Mae pethau yn fwy caled pan ti'n gadael ysgol ac edrych am opportunity i dy hun a ffrindiau a theulu a ti'n realisio bod gwleidyddiaeth yn cael llawer o effaith ar bethau ti eisiau gwneud," meddai.

Dyw Lara, sy'n 22, ddim yn cytuno bod yna ddifaterwch ymhlith pobl ifanc: "Mae pawb rwy'n adnabod yn siarad am wleidyddiaeth ac eisiau gwneud rhywbeth amdano fe."

Ond dyw gwleidyddion ddim yn berthnasol iddi hi a'i ffrindiau. Er nad yw hi yn cytuno gyda rhai o safbwyntiau arweinydd y blaid Lafur yn San Steffan, mae'n teimlo ei fod wedi cyflwyno'r pwnc mewn ffordd newydd.

"Fi jest yn gweld llawer o middle class men yn siarad mewn termau fi ddim rili'n deall. Felly fi yn hoffi'r syniad o rhywun fel Jeremy Corbyn yn gwneud rhywfaint o wahaniaeth."

Ymhlith y pynciau mae'n teimlo yn gryf amdanyn nhw yw cydraddoldeb i ferched, brwydr sydd dal i'w hennill meddai. "Os mae merch yn dweud unrhywbeth slightly bold mae pawb fel 'Ffeminist' ond dyw e ddim unrhywbeth fel 'na. Mae'n normal i gael barn."

Mae Cymry Ifanc 2016 yn cynnwys hanner cant o bobl dan 25 oed, sy'n meddu ar safbwyntiau amrywiol, ac sy'n gymwys i bleidleisio yn Etholiad y Cynulliad 2016.

Byddan nhw'n cyfrannu i raglenni a gwasanaethau digidol y BBC ar ystod o bynciau rhwng nawr a'r etholiad ym mis Mai.