Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gwrthod cynllun adennill ynni

  • Cyhoeddwyd
safle pyrolysis

Mae cynllun dadleuol i adeiladu canolfan adennill ynni o wastraff wedi'i wrthod gan bwyllgor cynllunio Sir Gaerfyrddin.

Yn unfrydol, pleidleisiodd cynghorwyr dros wrthod y cynllun.

Roedd Clean Power Properties wedi cyflwyno cynllun i adeiladu uned pyrolysis ger Fferm New Lodge yng Nghwmgwili, gyda'r bwriad o ddefnyddio hyd at 128,000 tunnell o sbwriel er mwyn creu ynni newydd.

Byddai'r ganolfan yn cael gwared â gwastraff drwy broses pyrolysis - sef defnyddio gwres uchel heb ocsigen i drin y sbwriel.

Roedd y cwmni'n gwadu mai llosgydd fyddai'n cael ei adeiladu.

Daeth criw o bobl i brotestio y tu allan i adeilad Cyngor Sir Gaerfyrddin wrth i'r pwyllgor cynllunio gyfarfod.

Nôl ym mis Tachwedd 2015, cafodd cyfarfod ei gynnal gan grŵp sy'n gwrthwynebu'r datblygiad.

Yn gynharach, wrth amlinellu eu rhesymau dros wrthod y cais, nododd swyddogion cynllunio'r cyngor: "Nid oes angen cyfleuster o'r natur a'r raddfa hon yn y lleoliad hwn", ac nid yw'r ymgeisydd "wedi dangos na fyddai'r allyriadau atmosfferig... yn beryglus i'r aer, na fyddai'n peryglu iechyd a lles pobl, ac na fyddai'n niweidiol i gefn gwlad".

Mae cais wedi ei wneud i gwmni Clean Power Properties am ei ymateb i'r penderfyniad.