Argyfwng ffoaduriaid: Argraffiadau Cymro
- Cyhoeddwyd

Wrth i gynhadledd gael ei chynnal yn Llundain i drafod yr argyfwng dyngarol yn Syria, mae Cymro sydd wedi dosbarthu nwyddau i ffoaduriaid yn yr Almaen yn dweud ei fod e'n credu fod pobl Cymru eisiau croesawu ffoaduriaid.
Bydd 70 o arweinwyr gwleidyddol yn cyfarfod yn Llundain ddydd Iau, yn eu plith, David Cameron, Angela Merkel a Kofi Annan.
Ar drothwy'r gynhadledd, cyhoeddodd Prydain y byddai'n dyblu'r cymorthdal i'r rhai sy'n dianc o'r rhyfel cartef yno.
Agweddau'n caledu?
Ond mae ystadegau arolwg barn gan y BBC yn awgrymu bod agweddau pobl ym Mhrydain at ffoaduriaid yn caledu.
Mae'n awgrymu fod 41% o bobl yn teimlo bod angen caniatau i lai o ffoaduriaid i ddod i'r wlad. 31% oedd canran y rhai gafodd eu holi ar gyfer arolwg tebyg ym mis Medi.
Hefyd yn ôl yr arolwg, mae 61% o bobl yn dweud eu bod yn poeni y gallai derbyn ffoaduriaid o wledydd fel Syria a Libya beryglu diogelwch Prydain.
Argraffiadau
Ond mae Cymro sydd wedi dosbarthu nwyddau i ffoaduriaid yn yr Almaen yn credu fod pobl Cymru eisiau rhoi croeso i ffoaduriaid.
Bu Tim Hartley'n son am ei argraffiadau wedi iddo deithio i'r Almaen ddwywaith ar ran elusen Gôl - elusen cefnogwyr tim pêl-droed Cymru.
Dywedodd: "Y tro cynta, roedd yr angen am ddillad, ac am offer ymolchi ac ati, pethau eithaf elfennol. Yr ail dro y gwnaethon ni ymweld, roedd y wladwriaeth wedi pennu hen farics i filwyr ar gyfer y ffoaduriaid.
"Roedden ni 'di mynd â phensiliau, felt pens a llyfrau lliwio ar gyfer o plant, ond ar gyfer yr oedolion, doedd dim byd i'w wneud, felly wnaethon ni brynu bwrdd tenis bwrdd awyragored, ac er ei bod yn glawio pan wnaethon ni ei roi e iddyn nhw, roedden nhw wrth eu boddau'n mynd ma's i chwarae. Roedd angen rhywbeth i'w wneud arnyn nhw."
Ar ôl cludo nwyddau i'r Almaen ddwywaith, mae Mr Hartley'n dweud ei fod wedi gweld gwahaniaeth yn agweddau Almaenwyr am roi lloches i ffoaduriaid.
"Y tro cynta y buon ni yna ym mis Hydref y llynedd, yn sicr roedd yna groeso gan bawb. Aethon ni i gêm bêl-droed yn Koblenz gyda'r ffoaduriaid," meddai.
"Erbyn yr ail dro, ym mis Ionawr eleni, roedd pethe wedi newid. Roedd yr hyn oedd wedi digwydd yn Cologne nos Calan, ac roedd yr arolwg barn welon ni ar y teledu yn dangos bod 66% yn meddwl bod polisi drws agored Angela Merkel yn ormod.
"Felly, yn sicr mae 'na newid wedi bod. Dwi'n credu bod hanes yr Almaen yn dangos eu bod nhw eisiau helpu, ond o bosib, digon yw digon."
"Ond mae'r profiad ry' ni wedi gweld o bolisi drws agored, fel yn yr Almaen, yn gallu mynd i'r gwrthwyneb, eich bod chi'n groesawgar, ac yna, "Wow," mae pobl yn dweud, "mae 'na ormod o bobl yma, ydy hyn yn mynd i newid natur ein cymdeithas ni? Ydyn ni'n gallu handlo nifer yna o bobl?
"Mae'r Almaen yn wlad gyfoethog iawn ac ar hyn o bryd yn gallu cymryd y nifer enfawr yna o ffoaduriaid. Ydy hynna'n bosib yng Nghymru ac ym Mhrydain? Dwi ddim cweit yn siwr."
Eisiau croesawu
Ac er bod Tim Hartley'n cydnabod bod yna broblemau â threfn 'drysau agored' yr Almaen, mae'n credu y gallai Cymru ddenu hyd at 1,000 o ffoaduriaid.
"Does bosib ein bod ni'n gallu cymryd 1,000 o bobl yma yng Nghymru, a rhoi croeso iddyn nhw, achos dwi'n teimlo bod pobl yn dymuno gwneud hynny.
"Mater i wleidyddion ydy faint ddylai fod yma a sut rydyn ni'n eu handlo nhw yn ffurfiol felly, ond o ran bobl gyffredin, cymdeithas sifil, rwy'n credu fod pobl eisiau eu croesawu nhw."
Ffoaduriaid yng Nghymru
Yn dilyn uwchgynhadledd yng Nghaerdydd fis Medi, cafodd tasglu ei sefydlu i gydlynu ymateb Cymru i'r argyfwng, ac i edrych ar faint o ffoaduriaid y byddai modd rhoi lloches iddyn nhw.
Dyw'r Prif Weinidog Carwyn Jones ddim wedi pennu rhif penodol, ond mae dros 50 o ffoaduriaid eisoes wedi cael eu cartrefu yng Nhor-faen, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili.
Yn ôl cadeirydd y tasglu, yr Aelod Cynulliad Lesley Griffiths, mae yna groeso i ffoaduriaid yng Nghymru:
"Rydym yn ymfalchïo yn ein hanes o groesawu ffoaduriaid o bob rhan o'r byd. Rwy'n falch i ddweud bod y traddodiad hwnnw'n parhau wrth i bob awdurdod lleol yng Nghymru gadarnhau eu bod yn barod i groesawu ffoaduriaid o Syria i'w cymunedau, cyn gynted ag y bydd y gwasanaethau cymorth angenrheidiol wedi'u rhoi ar waith."