Corff Ynys Môn: Cyhoeddi enw
- Cyhoeddwyd

Daeth cadarnhad mai corff dyn o ardal Leeds gafodd ei ddarganfod ar glogwyni yng nghyffiniau Ynys Lawd ger Caergybi ar Ynys Môn ddydd Mawrth.
Roedd Paul Newman yn 42 oed ac yn byw yn Normanton.
Yn gynharach yn y dydd, cafodd cyrff Geraldine Newman, 51 oed, ei merch Shannon, 11 oed a'i mab Shane, 6 oed, eu darganfod yn eu cartref yn Allerton Bywater.
Mae archwiliadau post-mortem ar eu cyrff yn dangos i Mrs Newman farw o anafiadau i'w phen, ac i'w dau blentyn farw ar ôl cael eu trywannu.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Sir Efrog eu bod yn credu fod cysylltiad rhwng y marwolaethau, gan ddisgrifio'r achos fel un brawychus.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Warren Stevenson: "Er bod ein hymchwiliad i amgylchiadau'r marwolaethau'n parhau, gallwn ddweud ei bod hi'n ymddangos mai achos domestig oedd hwn ac nad ydyn ni'n edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
"Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol i'r crwner fel y gall gynnal cwest i'r marwolaethau."