Tad yn marw wrth dagu ar fyrgyr

  • Cyhoeddwyd
Darren BrayFfynhonnell y llun, Wales News Service

Clywodd cwest yng Nghaerdydd sut y bu tad i dri o blant farw ar ôl ceisio bwyta byrgyr caws mewn un cegaid.

Fe lewygodd Darren Bray, 29 oed o'r Barri, ar ôl ceisio bwyta'r byrger ar noson gyda'i ffrindiau.

Disgrifiodd ffrindiau Mr Bray sut y trodd ei wyneb yn las wrth geisio ei fwyta.

Dywedodd ei ffrind, Sam Bisgrove: "Fe gododd y byrger a'i rolio yn ei hanner a dweud "gwyliwch hyn" cyn rhoi'r byrger cyfan yn ei geg."

'Synau ofnadwy'

"Roeddwn yn gweld ei fod yn ceisio ei beswch yn ôl i fyny, ac roedd yn gwneud synau ofnadwy."

"Fe geisias i fwrw'i gefn er mwyn clirio'i bibell awyr."

Cafodd parafeddygon eu galw i'r tŷ yn y Barri ym Mro Morgannwg, ond methiant oedd eu hymdrechion i'w achub.

Roedd Darren yn ffrind i'r pencampwr bocsio o'r Barri, Lee Selby, a phan enillodd yn erbyn y Mecsicanwr Fernando Montile, fe gyflwynodd ei orchest er cof am i Darren.