Gweinidog: Angen adolygiad S4C fod yn 'ehangach'

  • Cyhoeddwyd
S4C

Fe ddylai adolygiad S4C fod yn un fwy eang ynghylch darlledu cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl y dirprwy weinidog diwylliant.

Daw sylwadau Ken Skates yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan ddydd Mercher na fydd torriad i gyllideb S4C eleni wedi'r cyfan.

Er bod Mr Skates yn croesawu'r newyddion, mae'n dweud y dylai'r gwaith "fod yn rhan o adolygiad ehangach o anghenion darlledu cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth iaith Saesneg".

Dywedodd hefyd nad oes yna asesiad wedi bod i weld os yw'r cyfryngau yn gweithredu fel y dylen nhw ers datganoli.

Fe ddylai'r adolygiad ddigwydd nawr ac nid yn 2017, ychwanegodd Mr Skates.

"Dyw'r amseru ddim o les yn dod ar ôl siarter adolygiad y BBC yn hytrach nag yn gyfochrog ag o," meddai.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd adolygiad S4C yn edrych ar "gylch gwaith, trefniadau llywodraethu a chyllid S4C i sicrhau bod y darlledwr yn dal i allu bodloni anghenion cynulleidfaoedd sy'n siarad Cymraeg yn y dyfodol".