Gêr newydd
- Cyhoeddwyd

Hwyl fawr Clarkson, May a Hammond. Mae oes newydd ar fin dechrau i'r rhaglen geir boblogaidd 'Top Gear' gyda Chris Evans wrth y llyw.
Ers i'r tri cyflwynwydd ffarwelio am borfeydd bras Amazon, mae'r cyflwynydd pengoch a'i dîm cynhyrchu wedi bod yn chwilio am gyd-gyflwynydd i'r sioe sy'n cael ei gwerthu i wledydd ar hyd a lled y byd.
Yr actor Americanaidd Matt LeBlanc, gynt o 'Friends', sydd wedi ei ddewis er gwaethaf awgrymiadau Cymreig Cymru Fyw! Beth 'dych chi'n feddwl o'n rhestr ddethol ni?
Geraint Lloyd
Roedd e'n gweithio mewn garej am flynyddoedd felly mae cyflwynydd poblogaidd BBC Radio Cymru yn hen gyfarwydd â'r hyn sydd yn g'neud i injian redeg yn esmwyth. Wel mi ddyle fe fod! Fe allai gynnig gwneud eitem wythnosol gyda Bois y Loris, ta fyddai Chris yn meddwl ei fod e'n siarad drwy'i het? Top Ger amdani!
Andy Powell
Mae 'Top Gear' yn rhagori ar stynts yn ymwneud â phob math o gerbydau gwahanol. Gan bod Chris Evans yn dipyn o olffiwr yn ei amser sbar, beth am rasus bygis? Efallai y byddai cyn-wythwr Cymru Andy Powell ar gael i roi gwersi? Siawns ei bod hi'n fwy diogel i'w gyrru ar y trac nac ar yr M4.
Gwyndaf Evans
Dyma i chi ŵr fyddai'n dod yn agos at frig siart 'Gyrrwyr Cyflym' y rhaglen - Gwyndaf Evans, y cyn yrrwr rali o Ddinas Mawddwy. Mi fyddai'n rhoi esgus da iddo fedru dilyn hynt a hynt ei fab Elfyn yn fwy manwl wrth iddo fo gystadlu ym Mhencampwriaeth Ralïo WRC y Byd heb son am roi ei farn arbenigol am rai o'r cerbydau diweddara ar y farchnad.
Maureen Rees
Dydy strydoedd Caerdydd ddim wedi bod 'run fath ers i Maureen Rees fentro dysgu gyrru dan oruchwyliaeth y dyn mwya amyneddgar yn y byd - ei gŵr Dave. Gyda'i phersonoliaeth fyrlymus a'i hagwedd unigryw tuag at foduro mi fyddai hi'n sicr yn cadw Chris ar flaenau ei draed... wel falle byddai un droed yn hofran uwchben y brêc, rhag ofn!
Trefor Tacsis
Fyddai Trefor yn barod i adael 'Gwlad yr Astra Gwyn' am fyd y Ferrari a Bugatti Veyron? Mi fyddai'n gallu gwrando ar holl gyfrinachau'r gwesteion tra'n eu cludo'n ddiogel i'r stiwdio... ond fyddai'r 'tips' yn fwy nac ar strydoedd Bangor?
Gari Wyn
Fel arbenigwr ar geir ail law mi fydda Gari yn gallu rhannu cyngor doeth gyda'r gwylwyr. Mae o hefyd yn dipyn o hanesydd fyddai'n gallu olrhain hanes rhai o'r cynllunwyr a'r dyfeiswyr disglair. Gyda'i gefndir busnes a'i brofiad darlledu ar Radio Cymru bob amser cinio Dydd Llun fe allai holi rhai o fawrion y diwydiant ceir gan ddadwneud y jargon.
Alex Jones
Mae ganddyn nhw bartneriaeth lwyddiannus ar soffa 'The One Show'. Ydi hi'n bryd i Chris Evans ac Alex Jones gyflwyno ail raglen gyda'i gilydd? Does ganddom ni ddim syniad beth mae Alex yn ei wybod am geir ond mae hi wedi cael digon o bractis gyrru wrth yrru nôl a blaen cyhyd o Lundain i Gaerdydd!