Euro 2016: Disgwyl rhywbeth 'annisgwyl' gan Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae cyn chwaraewr canol cae Yr Almaen, Dietmar Hamann, wedi dweud ei fod yn credu y gall Cymru greu rhywbeth "annisgwyl" ym mhencampwriaeth Euro 2016.
Bydd Cymru'n chwarae Slofacia yn eu gêm agoriadol ar 11 Mehefin cyn chwarae yn erbyn Lloegr a Rwsia yng Ngrŵp B.
Dywedodd Hamann: "Os ydi carfan gryfaf Chris Coleman ar gael, yna byddant yn mynd yn bell yn y gystadleuaeth.
"Mae'r hyn a wnaeth Cymru yn y gemau rhagbrofol yn hollol wych."
Ychwanegodd cyn chwaraewr Lerpwl: "Rwy'n credu y bydd Cymru yn creu argraff yn yr Euros, a dwi'n credu y bydd un neu ddau yn cael eu synnu yn yr haf.
"Y prif beth fyddai cael y prif chwaraewyr yn ffit ac yn barod."
Fe wnaeth Hamman ei gymwysterau hyfforddi yng Nghymru o dan arweiniad Cyfarwyddwr Technegol a rheolwr cynorthwyol y tîm cenedlaethol, Osian Roberts.