Teyrngedau i Arglwydd 'poblogaidd a lliwgar'

  • Cyhoeddwyd
yr arglwydd harlech

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r Arglwydd Harlech, sydd wedi marw yn ei gartref yng Ngwynedd yn 61 mlwydd oed.

Bu Francis Ormsby-Gore yn eistedd fel aelod Ceidwadol o Dŷ'r Arglwyddi rhwng 1985 a 1999 .

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr ei fod yn "ffigwr poblogaidd a lliwgar" a fyddai'n cael ei "golli yn fawr iawn gan nifer o'i ffrindiau".

Yn fab i gyn-lysgennad Prydain i Washington, roedd yr Arglwydd Harlech wedi byw bywyd cythryblus ar brydiau.

Yn 1999 cafodd ddirwy am fod a chyffuriau yn ei feddiant, ac yn 2001 cafodd ei ddal yn yfed a gyrru.

Etifeddodd Francis Ormsby-Gore ei deitl yn 1985 yn dilyn marwolaeth ei dad, y pumed Barwn Harlech, cyn AS Ceidwadol a chadeirydd cyntaf Teledu Harlech, a ddaeth yn ddiweddarach yn HTV.

Dywedodd y Cynghorydd Caerwyn Roberts o Gyngor Gwynedd y byddai'n cofio yn "annwyl iawn" am yr Arglwydd Harlech .

"Roedd yn ddeallus iawn, roeddech bob amser yn teimlo y byddech yn dysgu rhywbeth ar ôl treulio amser gydag ef," meddai wrth BBC Cymru.

"Roedd yn garismataidd, a byddai'n gwisgo'n wahanol iawn, yn aml, het ddu a chrafat."