Democratiaid Rhyddfrydol wedi 'gwrando ar ddyheadau pobl'
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi addo "hoelio sylw" ar wella gwasanaethau cyhoeddus wrth i gynhadledd y blaid ddechrau yng Nghaerdydd.
Dywedodd Kirsty Williams fod y blaid yn bwriadu ymgyrchu ar gyfer etholiadau'r Cynulliad fis Mai i wella safonau ysgolion ac ysbytai, ac i fywiogi'r economi.
Mae'r blaid Lafur wedi "methu â chael y pethau sylfaenol yn iawn" ar ôl bod mewn grym am bron i 17 mlynedd, meddai.
Ond mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu talcen caled, gyda'r polau piniwn yn awgrymu y gallai bron pob un o'u pum sedd fod dan fygythiad.
Negeseuon syml
Gobaith y blaid yw y bydd negeseuon syml ar addysg ac iechyd yn taro deuddeg gyda'r etholwyr, ac mae'r blaid yn dadlau'u bod wedi perfformio'n well na'r disgwyl yn y gorffennol, gan roi etholiad 2011 fel enghraifft.
"Yn yr etholiad hwn, fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dangos ein bod ni wedi gwrando ar ddyheadau pobl," dywedodd Ms Williams.
"Mae'n gweledigaeth ni ar gyfer Senedd Gymreig y dyfodol yn un sy'n rhoi i bobl, o'r diwedd, yr hyn maent yn dymuno weld, ysgolion da, ysbytai da ac economi fywiog.
"Fyddwn ni'n hoeli'n sylw ar wella gwasanaethau cyhoeddus."
Mae'r blaid yn addo mwy o nyrsys mewn ysbytai, sicrhau fod pob plentyn dan saith oed mewn dosbarth yn llai na 25 disgybl, ac i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros y 5 mlynedd nesaf.
Fe fydd arweinydd y blaid Brydeinig Tim Farron yn annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn.
Dadansoddiad Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru
Ystrydeb braidd yw dweud y dyddiau yma bod etholiad yn un cwbl dyngedfennol i'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond gyda'r blaid yn wynebu chwalfa posib ym mis Mai mae'n eglur y byddai canlyniad gwael yn gwneud niwed difrifol a hirdymor i'r blaid.
Gyda dim ond un Aelod Seneddol a chyda'i phresenoldeb mewn llywodraeth leol wedi crebachu'n enbyd mae'r blaid Gymreig bron yn llwyr ddibynnol ar y grŵp Cynulliad i gynnal ei phroffil a'i threfniadaeth.
Yn etholiad diwetha'r Cynulliad yn 2011, blwydd ar ôl ffurfio'r glymblaid yn San Steffan, fe ostyngodd cyfanswm pleidleisiau'r blaid yn sylweddol. Serch hynny, o drwch blewyn fe lwyddodd y blaid i gadw ei gafael ar seddi rhestr mewn pedair allan o'r pum rhanbarth etholiadol.
Fe fydd gwneud hynny eleni yn llawer anoddach o ganlyniad i'r twf yn y gefnogaeth i Ukip dros y pum mlynedd diwethaf. Mewn gwirionedd mae angen cynnydd sylweddol yn y bleidlais er mwyn i'r blaid aros yn ei hunfan a dyw e ddim yn eglur o ble ddaw'r gefnogaeth honno.