Disgybl ag anghenion addysg arbennig wedi cael 'cam'

  • Cyhoeddwyd
dosbarth

Cafodd disgybl ag anghenion addysg arbennig "gam" gan adran addysg Cyngor Wrecsam, meddai'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yn ôl adroddiad gan Nick Bennett, methodd yr awdurdod i ddilyn ei bolisi gofynion statudol i gefnogi'r bachgen ysgol gynradd.

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn gan fam y bachgen, fod y cyngor wedi methu â mynd ati'n briodol i ystyried, asesu a chanfod anghenion addysgol arbennig ei mab.

Daeth yr Ombwdsmon i'r casgliad fod y bachgen, wedi wynebu "cyfnod hirfaith" heb addysg briodol oherwyddd y cyngor.

"Rydw i'n eithriadol o bryderus na chafodd y disgybl hwn mo'r cymorth yr oedd ei angen arno ac am y gofid a achoswyd i deulu'r plentyn," meddai Mr Bennett.

"Dydy'r dull tameidiog o ddelio ag addysg y plentyn hwn ddim yn ddigon da, ac rydw i'n credu yn yr achos hwn ei fod wedi cael cam gan y system a oedd yn ei lle."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Nick Bennett yn dweud yn ei adroddiad ei fod yn "eithriadol o bryderus"

Dywedodd mam y bachgen wrth y BBC: "Roedd hi'n glir o'r cychwyn, o ddechrau mewn addysg, ei fod am ei chael yn anodd.

"Rwy'n credu ei bod yn eithaf hawdd beio'r rhieni neu'r plentyn gan gymryd yn ganiataol mai nhw ydi'r rhai sydd gyda'r broblem a bod hyn yn rhywbeth sydd angen ei ddatrys gan y teulu."

Yn ôl yr adroddiad, rhoddodd Cyngor Wrecsam y "cyfrifoldeb" ar ysgolion yr ardal i ddilyn opsiynau eraill yn hytrach nag asesiad statudol.

Mae'r cyngor wedi cytuno i ddarparu ymddiheuriad i'r fam ac iawndal am y methiannau, meddai'r adroddiad.

Mewn ymateb ar ran Cyngor Wrecsam, dywedodd y cynghorydd Michael Williams, yr aelod dros Addysg a Gwasanaethau Plant: "Rydym yn falch o weld fod adroddiad yr Ombwdsmon yn nodi ein bod eisoes wedi cymryd camau i ymddiheuro i'r ddynes dan sylw, ac hefyd yn cydnabod ein bod ni wedi ail-strwythuro ein proses gwyno er mwyn osgoi'r materion gafodd eu codi rhag digwydd eto yn y dyfodol.

"Rydym hefyd yn derbyn awgrymiadau'r Ombwdsmon, ac eisoes wedi dechrau eu rhoi mewn grym.

"Fe wnawn hefyd adolygu ein trefniadau ESAP er mwyn canfod os oes angen cefnogaeth addysgol ychwanegol, neu ail-gategoreiddio disgyblion ar ESAP i SEN."