Pryderon am ddiogelwch: Canslo Sioe Awyr Llandudno

  • Cyhoeddwyd
llandudnoFfynhonnell y llun, Google

Mae un o sioeau awyr enwocaf y gogledd wedi cael ei ganslo oherwydd pryderon am ddiogelwch, yn dilyn y trychineb awyr Sioe Shoreham y llynedd.

Daw'r penderfyniad gan drefnwyr Sioe Awyr Llandudno oherwydd rheoliadau newydd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil, a hynny yn dilyn y ddamwain yn ne ddwyrain Lloegr, a laddodd 11 o bobl.

Dywedodd Edward Hiller, rheolwr gyfarwyddwr Mostyn Estates Ltd, sy'n trefnu'r digwyddiad er budd elusennau'r lluoedd arfog, nad oedd y penderfyniad i ganslo sioe eleni yn "un hawdd, ond roedd yr amserlen i ganiatáu'r holl reolau newydd ar waith yn rhy fyr".

Ychwanegodd: "Mae nifer o ffactorau wedi ein harwain at y penderfyniad hwn. Yr un allweddol oedd rheoliadau'r CAA a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dilyn y ddamwain yn Shoreham yr haf diwethaf, bydd angen i ni adolygu sut y bydd y gofynion newydd yn effeithio dros y flwyddyn, er ein bod yn obeithiol y byddwn yn gallu ailddechrau'r sioe yn Llandudno yn 2017."