Gwrthdrawiad nos Galan: Dyn yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Kyle Kennedy a Simon Lewis
Disgrifiad o’r llun,
Fe ymddangosodd Kyle Kennedy (chwith) yn y llys, am achosi marwolaeth Simon Lewis (dde)

Mae gyrrwr sydd wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth tad a'i blentyn newydd-anedig drwy yrru'n beryglus wedi ymddangos ger bron Llys y Goron Caerdydd.

Fe gafodd Simon Lewis, 33 oed, o Trowbridge, ei ladd yn y gwrthdrawiad ar Ffordd Lamby ar Nos Galan. Bu farw ei fabi hefyd, ar ôl iddo gael ei eni ar frys wedi'r digwyddiad.

Mae Kyle Kennedy, 29 oed, o Dredelerch, yn wynebu nifer o gyhuddiadau gan gynnwys dau o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ddydd Gwener, a bydd yn ymddangos yn y llys eto ar 15 Ebrill.

Mae Mr Kennedy hefyd wedi cael ei gyhuddo o yrru heb yswiriant, gyrru tra'i fod wedi ei wahardd a chymryd cerbyd heb ganiatâd.