Cyngor yn peidio cau ysgol Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Sir y Fflint wedi penderfynu peidio cau ysgol gynradd Gymraeg yn y sir er mwyn i drafodaethau am ffederaleiddio'r ysgol gael eu cwblhau.
Roedd Ysgol Gymraeg Mornant ger Treffynnon yn destun ymgynghoriad statudol dros ei dyfodol, ond fe wnaeth Pwyllgor Craffu Addysg a Phobl Ifanc y cyngor benderfynu ddydd Gwener y dylai'r ysgol gael amser i edrych ar ffederaleiddio gydag ysgol cyfrwng Cymraeg arall.
Nid oes unrhyw ysgol gynradd Gymraeg arall wedi dangos diddordeb mewn ffederaleiddio. Ond mewn ymateb i'r ymgynghoriad, dywedodd ysgol uwchradd Gymraeg Maes Garmon yn yr Wyddgrug, y byddai'n ceisio gwneud popeth sydd yn bosib i gadw Ysgol Mornant ar agor.
Dywedodd swyddogion bod "trafodaethau o ddifrif" yn cael eu cynnal rhwng y ddwy ysgol, ac fe allai'r canlyniadau "arwain y sector".
Ymgynghoriad
Roedd swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi awgrymu y dylai'r ysgol fod yn destun ymgynghoriad o achos gostyngiad yn nifer y disgyblion yn yr ysgol, oedd wedi arwain at lefydd gwag.
Mae'r ysgol, sydd yng ngogledd y sir, yng nghategori 'Oren' Llywodraeth Cymru.
Rhybuddiodd swyddogion nad oedd ffederaleiddio yn cynnig yr ateb i bob problem ond bod rhesymau dilys er mwyn mynd "y filltir ychwanegol" i ddod o hyd i ateb hyfyw.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, aelod y cabinet gyda chyfrifoldeb dros addysg:
"Mae'n bwysig bod ysgolion cyfrwng Cymraeg a'r gymuned ehangach yn camu ymlaen i ddangos ymrwymiad ffurfiol i ffederaleiddio a chefnogaeth ymarferol i hybu mwy o deuluoedd i ddewis yr ysgol ar gyfer addysgu eu plant.
"Os bydd ffederaleiddio hyfyw yn cael ei gwblhau, mae'r drws ar agor i'w argymell i'r Cabinet."
Bydd cabinet y cyngor yn trafod dyfodol Ysgol Mornant ar 16 Tachwedd.