Oedi i gynllun lagŵn yn 'gywilyddus', medd Tim Farron

Tim Farron

Mae'r oedi i gynllun lagŵn gwerth £1 biliwn yn Abertawe yn "gywilyddus", yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mewn araith i gynhadledd y blaid yng Nghymru dywedodd Tim Farron bod y diffyg cynnydd gyda'r cynllun yn codi cwestiynau ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth San Steffan i gynlluniau ynni gwyrdd.

Fe wnaeth y Prif Weinidog David Cameron gyfaddef fis diwethaf ei fod yn llai brwdfrydig am y syniad.

Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cytuno ar gymhorthdal gyda'r datblygwr.

'Camau yn ôl'

Dywedodd Mr Farron bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi "ymladd y Ceidwadwyr amheus" er mwyn gwthio'r agenda gwyrdd tra mewn clymblaid gyda nhw.

"Rydyn ni wedi bod yn arweinwyr y byd yn y maes yma ond mae'r statws yna mewn bygythiad.

"Mae'r lagŵn yn brawf Litmws i'r llywodraeth. Ydych chi'n poeni am hyn? Neu oedd o i gyd yn sioe?

"Am bum mlynedd mi wnaethon ni ymladd y Ceidwadwyr amheus er mwyn gwneud yn siŵr bod y glymblaid y llywodraeth fwyaf gwyrdd erioed.

"Yn y chwe mis diwethaf mae'r cynnydd yna wedi cymryd camau yn ôl, a hynny'n gyflym."

Image copyright PA
Image caption Bu David Cameron yn gweld y rhewlif yn 2006

'Cywilyddus'

Wrth gyfeirio at ymweliad Mr Cameron a rhewlif yn 2006, soniodd Mr Farron bod y "cŵn esgimo, gafodd eu saethu gan Cameron sbel yn ôl pan doedden nhw ddim o ddefnydd iddo, yn troi yn eu beddi".

"Mae'n gywilyddus bod y gwaith wnaethon ni ddechrau yn y glymblaid yn dod yn ddarnau.

"Dylai Prydain fod yn arwain y ffordd o ran yr economi werdd ac yn gosod esiampl i genhedloedd eraill ar ôl trafodaethau'r Cenhedloedd Unedig ym Mharis."

Fel rhan o'r cynllun yn Abertawe, byddai 16 o dyrbinau yn cael eu gosod o dan y môr er mwyn cynhyrchu 320 megawat o drydan.

Clywodd BBC Cymru fis diwethaf bod pryderon ynglŷn a'r modelu a'r beirianneg fyddai'n cael ei ddefnyddio.

Ond yn ôl Tidal Lagoon Power mae'r cwestiynau ynghylch y beirianneg a'r effaith amgylcheddol wedi cael eu hateb yn fanwl.

Herio 'hawl' Llafur

Hefyd dywedodd Mr Farron fod Llywodraeth Llafur Cymru wedi methu yn ystod yr 17 o flynyddoedd mewn grym.

Dywedodd bod angen herio'r syniad bod gan Lafur "hawl" i reoli.

"Maen nhw'n ymddwyn fel landlordiaid Cymru, a bod dim hawl i bleidleisio'r un ffordd arall. Wnawn ni ddim derbyn hynny."

Wrth ystyried y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd:

"O ystyried maint yr heriau i'r economi, newid hinsawdd a'r argyfwng mewnfudwyr, ydyn ni'n well yn wynebu rhain gyda'n gilydd neu ar ben ein hunain?

"Dyma'r cwestiynau pwysig, ac mae'r atebion yn amlwg.

"Os ydych chi eisiau Prydain sy'n llewyrchus, yn ddiogel, Prydain sydd o bwys, yna rydych chi'n pleidleisio i aros yn Ewrop."

'Llywodraeth wedi blino'

Ychwanegodd y dylai'r Prif Weinidog David Cameron gytuno i dderbyn 3,000 o ffoaduriaid ifanc o Syria.

"Gwnewch y peth iawn, gwnewch y peth Prydeinig a gwnewch hynny nawr," meddai.

Dywedodd hefydd mai Llafur dan Jeremy Corbyn oedd "heb os yr wrthblaid fwyaf diwerth yn hanes gwleidyddiaeth Prydain".

Brynhawn Sadwrn, dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams bod y bai ar y blaid Lafur am fethiant datganoli i roi gwasanaethau gwell.

"Wrth greu Llywodraeth Cymru, roedden ni'n disgwyl gwleidyddiaeth newydd oedd yn deall ein cymunedau, gwleidyddiaeth lle roedd Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am ei phenderfyniadau ei hun," meddai.

"Ond yn fwy na dim, roedden ni'n disgwyl canlyniadau gwell. Ond mae'r llywodraeth yma yn methu a chael y pethau syml yn iawn."

Ychwanegodd: "Does dim. Mae'r llywodraeth yma wedi blino, does yna ddim i'w gynnig. Mae wedi rhedeg allan o syniadau."