The Lady in the Van: Dwylo dawnus Maggie Smith?

  • Cyhoeddwyd
The Lady in the Van
Disgrifiad o’r llun,
Maggie Smith yn 'The Lady in the Van'

Mae'r Fonesig Maggie Smith wedi ei henwebu am sawl gwobr fawreddog yn dilyn ei rôl ddiweddaraf yn y ffilm 'The Lady in the Van'.

Mae'r actores ar y rhestr fer ar gyfer yr Actores Orau yn seremoni wobrwyo BAFTA sy'n cael ei chynnal nos Sul, 14 Chwefror. Roedd hi hefyd yn y ras i ennill y wobr Perfformiad Gorau gan Actores mewn Comedi neu Sioe Gerdd yng ngwobrau'r Golden Globe.

Ond efallai bod ganddi le i ddiolch i ddynes o Ynys Môn am yr anrhydeddau hynny.

Mewn golygfa deimladwy yn 'The Lady in the Van', mae'n ymddangos mai dwylo dawnus Maggie Smith, wrth iddi bortreadu cymeriad Miss Shepherd, sy'n canu'r piano.

Fodd bynnag, dwylo'r pianydd Helen Davies o Borthaethwy ydi'r rheiny, rôl y cafodd hi drwy "ffliwc", meddai wrth Cymru Fyw.

"Mae ffrind i ffrind yn trefnu cerddorion ar gyfer ffilmiau a recordiau. Bu'n edrych am bianydd ac, yn amlwg, doedd y person methu bod yn ifanc.

"Roedden nhw angen rhywun gyda dwylo hŷn i chwarae rhan Miss Shepherd a does 'na ddim llawer o bobl o fy oed i yn parhau i weithio ac yn rhydd pan oedden nhw'n bwriadu ffilmio."

Ffynhonnell y llun, MARYDAVIESPHOTOGRAPHY
Disgrifiad o’r llun,
Dwylo Helen Davies, nid Maggie Smith, sy'n chwarae'r piano mewn golygfa yn y ffilm

Mae'r ffilm gomedi gan Nicholas Hytner yn stori wir am y berthynas rhwng Alan Bennett a Miss Shepherd - dynes oedrannus, ecsentrig, ddigartref, fu'n byw mewn fan y tu allan i'w dŷ yn Llundain am 15 mlynedd.

Ond o fynd dan yn wyneb, daw hanes a chefndir Miss Shepherd yn amlwg.

Bu'n arfer bod yn bianydd talentog, ac yn lleian, a olygai nad oedd hi'n cael canu'r piano bryd hynny.

Tra mewn cartref gofal yn y ffilm, mae Miss Shepherd yn gweld yr offeryn cyn mynd ati i chwarae Piano Concerto No. 1 (Chopin), darn sy'n cael ei berfformio gan ddwylo Ms Davies.

"Cafodd ei wneud yn anhygoel," meddai. "Rydych yn meddwl mai Maggie Smith sy'n chwarae'r piano, ond fy nwylo i sydd wrthi."

Yn wreiddiol o Southport, mae hi wedi byw ym Mhorthaethwy gyda'i gŵr, Edward Davies, sy'n feiolinydd, ers dros 30 o flynyddoedd.

Mae hi'n gyfeilydd ac wedi chwarae'n gyson mewn Eisteddfodau, gwyliau, cystadlaethau rhyngwladol gan berfformio hefyd ar Radio 3, teledu'r BBC, ITV ac S4C.

Bu Helen Davies yn Harrow, gogledd Llundain, yn ffilmio'r olygfa gyda'r actores am bron i hanner diwrnod - pan gafodd hi "fore gwefreiddiol".

Dywedodd: "Roedd rhaid i mi wisgo'r un dillad, felly mi wnaeth hi eistedd yn fy ngwylio yn chwarae fel ei bod yn gallu copïo'r symudiadau. Roedd hi'n arfer chwarae ychydig, meddai hi."

Felly sut brofiad oedd cyfarfod Maggie Smith?

"Roedd hi'n anhygoel, roedd hi mor garedig ac lyfli," meddai Helen Davies. "Hi ydi'r bos, does dim dwywaith amdani.

"Mae hi yn ei 80au erbyn hyn ac fe saethon ni'r olygfa ryw bedair, pum gwaith o leiaf.

"Yna fe wnaethom nhw ofyn iddi ei wneud unwaith eto. Dywedodd hi 'dw i'n siŵr bod gennych chi fwy na digon o ddeunydd yn barod, dwi ddim yn ei wneud eto!"

Yno hefyd oedd dirprwy Maggie Smith, actores sydd wedi gwneud y swydd "ers blynyddoedd" ac bu'n chwarae ei rhan yn "holl stwff Downtown Abbey".

Yn ddiplomataidd, mae'r awgrym bod yr actores wedi ei henwebu ar gyfer BAFTA o ganlyniad i berfformiad Helen Davies "bach yn rhy bell", meddai.

"Bu'n anrhydedd ac yn fraint cael bod yn rhan o'r ffilm," ychwanegodd.