Mesurau newydd i fynd i'r afael â chlefyd yr afu
- Cyhoeddwyd

Mae cyfres o fesurau newydd i gael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n marw o glefyd yr afu yng Nghymru.
Bydd y mesurau'n cynnwys sefydlu timau gofal alcohol ym mhob ardal bwrdd iechyd a chynnal ymgyrch cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth.
Mae marwolaethau yng Nghymru o glefyd yr afu wedi mwy na dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf - yn bennaf o ganlyniad i'r cynnydd mewn gordewdra a chamddefnyddio alcohol.
Bydd y mesurau yn cael eu hariannu gan gyllid o £2.4m dros y tair blynedd nesaf gan Lywodraeth Cymru.
Bydd buddsoddiad o £1m i sefydlu Timau Gofal Alcohol i ddarparu gofal eilaidd ledled Cymru, tra bo swm o £300,000 yn cael ei fuddsoddi mewn ymgyrch newydd i hybu iechyd yr afu er mwyn lleihau'r galw am driniaeth.
'Ffordd o fyw'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae nifer y bobl sy'n dioddef o glefyd yr afu ar gynnydd yng Nghymru.
"Rydym yn gwybod na ellir osgoi rhai achosion, ond ein ffordd o fyw sy'n gyfrifol am lawer ohonynt - alcohol yw prif achos clefyd yr afu o hyd.
"Cyhoeddwyd ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu yn gynharach eleni, ac mae'n nodi sut y mae GIG Cymru yn bwriadu atal y twf mewn clefyd yr afu a'r marwolaethau sy'n gysylltiedig, drwy roi mwy o gymorth i gleifion, gwella ansawdd gwasanaethau, gwella gwybodaeth arbenigol am glefyd yr afu ledled y gwasanaeth iechyd, ac annog cleifion i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u gofal.
"Mae'r mesurau newydd sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn canolbwyntio ar addysg, ymyrraeth ac ataliaeth gynnar, ac ar ddulliau o ddarparu'r gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn."