Rhybudd gwynt a glaw mewn grym ar gyfer dydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
TywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae disgwyl glaw trwm a gwyntoedd o hyd at 65mya yng nganolbarth a de Cymru ddydd Sadwrn.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod llifogydd yn bosib, gyda disgwyl 5-7cm o law i ddisgyn.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy a Thorfaen.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod y rhybudd melyn mewn grym rhwng 06:00 a 22:00.