Agor llyfrgell mewn canolfan hamdden wrth i eraill gau

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Hamdden Glannau DyfrdwyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y llyfrgell newydd yn agor yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar 29 Chwefror

Bydd tair llyfrgell sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor yn Sir y Fflint yn cau fis yma pan mae cyfleuster newydd yn agor yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

Cafodd ei gytuno y llynedd y byddai llyfrgelloedd Penarlâg, Mancot a Queensferry yn cau, yn rhannol oherwydd toriadau.

Ond mae grŵp, Ffrindiau Llyfrgell Mancot, wedi ei sefydlu i redeg yr adeilad fel llyfrgell gymunedol o fis Mawrth.

Bydd y llyfrgell newydd yn agor ar 29 Chwefror.