BBC Cymru Fyw

Pro12: Ulster 17-15 Dreigiau

Published
image copyrightInpho
Mae Ulster wedi symud i gopa tabl y Pro12 wrth i gic gosb hwyr Paddy Jackson sicrhau buddugoliaeth dros y Dreigiau nos Wener.
Fe wnaeth cic Jackson wedi 78 munud roi'r tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.
Aeth y Dreigiau ar y blaen gyda chais gan yr asgellwr Ashton Hewitt cyn i Sean Reidy groesi i Ulster.
Fe wnaeth cais Carl Meyer ymestyn mantais yr ymwelwyr, ond fe ddaeth y Gwyddelod yn ôl unwaith eto gyda chais gosb.
Roedd hi'n ymddangos bod y Dreigiau am sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn y Pro12 y tymor yma, ond roedd Jackson yn gywir gyda'i gic hwyr.