Anafiadau 'difrifol' wedi gwrthdrawiad ym Mangor Uchaf

  • Cyhoeddwyd
Bangor crashFfynhonnell y llun, NW Police Roads Policing Unit/Twitter

Mae un dyn yn yr ysbyty a dyn arall wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad ym Mangor yn oriau man bore Sadwrn.

Cafodd dyn yn ei 20au anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ar Ffordd Caergybi ym Mangor Uchaf am tua 03:30.

Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty yn Stoke, a dywedodd yr heddlu bod yr anafiadau i'w goes yn rhai all "newid ei fywyd".

Wedi'r digwyddiad, cafodd gyrrwr Skoda Fabia gwyn, dyn 18 oed, ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol a gyrru'n beryglus.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth, yn enwedig am unrhyw un wnaeth weld y car cyn y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101.