Llofruddiaeth Rhyl: Arestio dyn a dynes
- Cyhoeddwyd

Cafodd Mr Hill ei weld yn gadael tafarn yn Y Rhyl ddeuddydd cyn darganfod ei gorff
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dau berson mewn cysylltiad ag ymchwiliad i lofruddiaeth yn Y Rhyl.
Cafodd corff Liam Hill, 44, ei ddarganfod mewn fflat yn y dref ar 8 Ionawr, ddeuddydd ers iddo gael ei weld yn fyw am y tro diwethaf.
Mae dyn 46 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o'i lofruddio, a dynes 41 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae'r ddau o ardal Y Rhyl.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw ar 101, neu yn ddienw ar 0800 555111.