Democratiaid Rhyddfrydol yn 'ffyddiog o gadw seddi'
- Cyhoeddwyd

Er y rhybuddion, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi mynnu na fydd y blaid yn colli pob Aelod Cynulliad wedi'r etholiad ym mis Mai.
Dywedodd Kirsty Williams bod proffwydoliaeth debyg yn 2011 yn anghywir, wrth i'r blaid ennill pum sedd.
Dywedodd: "Mae'r heriau yn debyg, ac mae'r broffwydoliaeth yn debyg."
Ar ddiwrnod olaf eu cynhadledd, fe wnaeth y blaid hefyd gyflwyno cynlluniau i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy os ydyn nhw mewn grym ar ôl yr etholiad.
'Dylanwadu'
Yn siarad ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd Ms Williams bod yr etholiad yn "heriol" ond bod yr etholiad bum mlynedd yn ôl hefyd wedi bod yr un fath.
"Fe wnaethon ni ddangos, drwy fynd ag ymgyrch gryf i mewn i gymunedau, a dangos yn glir pam bod angen y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn y Cynulliad, a'r hyn fyddai'n cael ei wneud gyda'r cyfle yna."
Ychwanegodd bod y blaid wedi creu "grwp bach ond cryf" oedd wedi "dylanwadu i wneud pethau da".
Byddai'r addewid ar dai cymdeithasol yn golygu dyblu targed presennol Llywodraeth Cymru o adeiladu 10,000 o dai newydd mewn pum mlynedd, ac yn golygu dyblu'r gwariant ar dai cymdeithasol o £35m i £70m y flwyddyn.
Yn ôl y blaid, byddai'r arian sy'n cael ei arbed drwy beidio â pharhau gyda'r cynllun i adeiladu ffordd osgoi'r M4 yng Nghasnewydd yn talu am y tai.
Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd bleidleisio i atal rhieni rhag cael yr hawl i dynnu eu plant allan o wersi addysg rhyw mewn ysgolion.
Mae cefnogwyr yn dweud y byddai'n gwella iechyd rhyw a helpu i atal trais rhyw.
Yn trafod y cynllun tai, dywedodd llefarydd y blaid, Peter Black: "Mae Cymru angen llywodraeth fydd yn buddsoddi mewn cynllun adeiladu tai fel bod gan bawb do dros eu pennau.
"Bydd tai cymdeithasol yn flaenoriaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig. Byddwn yn sicrhau bod tai o safon, sy'n fforddiadwy, ar gael i'r rhai sydd eu hangen.
Ychwanegodd bod gan Lafur agwedd oedd "bron yn sarhaus" tuag at brynu tai, gan ddweud eto y byddai'r blaid yn cyflwyno cynllun 'rhentu i brynu' i helpu pobl brynu eu cartrefi eu hunain.
Straeon perthnasol
- 7 Chwefror 2016
- 6 Chwefror 2016