Celfyddydau: Cannoedd yn gorymdeithio
- Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bobl wedi gorymdeithio drwy ganol Caerdydd i brotestio yn erbyn toriad posib o £700,000 i gyllideb y celfyddydau.
Daeth tua 400 o bobl i'r rali i wrthwynebu'r toriadau posib, sydd yn ôl y trefnwyr yn "bygwth dyfodol celfyddydol y ddinas".
Dywedodd un o'r trefnwyr Rabab Ghazoul mai'r bwriad oedd "cefnogi, diogelu a dathlu un o asedau pwysicaf y ddinas - y diwylliant".
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r orymdaith yn "gyrru neges gref i gyngor y ddinas nad ydyn ni eisiau Caerdydd heb ddiwylliant".
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Yn y sector celfyddydol, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'n partneriaid allanol i hybu a dathlu Caerdydd fel lle gwych ar gyfer y celfyddydau."
Bydd newidiadau i gynlluniau'r cyngor i wneud toriadau yn cael eu cyhoeddi ar 12 Chwefror cyn mynd i'r cabinet ar ddiwedd y mis.