Cau canolfan chwaraeon wedi difrod glaw
- Cyhoeddwyd

Roedd rhaid i gwsmeriaid gael eu symud o ganolfan chwaraeon ym Mlaenau Gwent ar ôl i law trwm wneud difrod i'r to.
Roedd rhaid i Ganolfan Chwaraeon Glyn Ebwy gau oherwydd llifogydd am tua 11:00 fore Sadwrn, ar ôl i ran o'r to gwympo.
Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru eu bod wedi delio gyda "llifogydd difrifol" ond nad oedd unrhyw un wedi cael anafiadau.
Daw wedi rhybudd y Swyddfa Dywydd am wynt a glaw, sy'n parhau mewn grym tan nos Sadwrn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd - mae'r holl fanylion ar gael yma.
Fe wnaeth y tywydd achosi peth oedi ar y rheilffyrdd yn ne Cymru, ac roedd cyfyngiadau i draffig ar yr M48 yn Sir Fynwy.
Cafodd pedwar o bobl eu hachub o lifogydd yn Llanfihangel-y-fedw ger Casnewydd. Roedd y pedwar mewn car aeth yn sownd yn y dŵr, ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Roedd cyfyngiadau ar Bont Britannia yng ngogledd Cymru, ac roedd rhaid canslo rhai gwasanaethau fferi o Gaergybi i Ddulyn hefyd.