Caerdydd 0-0 MK Dons
- Cyhoeddwyd

Daeth Tom Lawrence yn agos at sgorio yn ei gêm gyntaf i gaerdydd
Cafodd Gaerdydd ergyd i'w gobeithion o gyrraedd gemau'r ail-gyfle yn dilyn gêm ddi-sgôr yn erbyn MK Dons ddydd Sadwrn.
Peniodd Tom Lawrence yn erbyn y postyn yn yr hanner cyntaf mewn hanner siomedig i'r Adar Gleision.
Cafodd Lawrence ac Anthony Pilkington rhagor o gyfleoedd yn yr ail hanner ond roedd amddiffyn MK Dons yn gadarn.
Fe wnaeth cyn ymosodwr Caerdydd, Nicky Maynard wastraffu cyfleoedd da i'r Dons, sydd ond triphwynt uwchben gwaelod y Bencampwriaeth.
Mae Caerdydd yn parhau yn y nawfed safle, pum pwynt oddi wrth safle'r gemau ail-gyfle.