Tynnu enw ymgeisydd UKIP o'r rhestr

  • Cyhoeddwyd
Kevin Mahoney
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Mr Mahoney ei fod yn falch bod aelodau nawr yn cael dewis yr ymgeiswyr

Mae cynghorydd UKIP wnaeth gyhuddo'r blaid o "ffrindgarwch" wedi ei dynnu oddi ar restr o ymgeiswyr posib ar gyfer etholiad y Cynulliad.

Dywedodd Kevin Mahoney y byddai'n gadael y blaid petai'r cyn Aelodau Seneddol Ceidwadol, Neil Hamilton a Mark Reckless yn cael eu dewis fel ymgeiswyr.

Cafodd Mr Mahoney wybod am y penderfyniad mewn cyfarfod o bwyllgor Cymreig y blaid ddydd Sadwrn.

Bydd nawr yn aelod annibynnol ar Gyngor Bro Morgannwg.

Dewis ymgeiswyr

Yn y cyfarfod, fe wnaeth y blaid hefyd benderfynu sut y bydd ymgeiswyr rhanbarthol yn cael eu dewis, wedi misoedd o ffraeo mewnol.

Bydd pob aelod o UKIP yng Nghymru yn cael papur pleidleisio ac yn cael dewis pwy maen nhw am weld yn eu cynrychioli. Bydd y canlyniadau yn cael eu cadarnhau gan gorff annibynnol.

Dywedodd Dave Rowlands o UKIP yng Nghymru bod y mater wedi ei ddatrys, a'i fod yn gobeithio na fyddai'n cymryd "mwy na tair i bedair wythnos".

Ddydd Iau, fe wnaeth sawl ymgeisydd alw ar Nathan Gill i ymddiswyddo oherwydd y ffraeo.

Dywedodd Kevin Mahoney: "Rydw i'n falch bod fy ngwrthwynebiad cyhoeddus i'r ffrindgarwch gwleidyddol o fewn UKIP a'r arweinyddiaeth yn genedlaethol ac yng Nghymru wedi arwain at roi pleidlais i bob aelod yng Nghymru am drefn y rhestr, rhywbeth nad oedd ganddyn nhw o'r blaen."