Sbwriel: Cyngor Conwy yn trafod casgliad misol

  • Cyhoeddwyd
Casglu sbwriel

Bydd cyngor yng ngogledd Cymru yn trafod argymhelliad i gasglu sbwriel unwaith y mis er mwyn ceisio hybu pobl y sir i ailgylchu fwy.

Mae Cyngor Conwy yn ystyried newid y drefn sydd yn bodoli ar hyn o bryd, o gasglu bob pythefnos.

Petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, Conwy fyddai'r sir gyntaf yng Nghymru i gasglu biniau yn fisol.

Yn ôl y cyngor, mae tua 59% o wastraff yn cael ei ailgylchu, ond mae'r sir eisiau cynyddu'r ffigwr.

Dywedodd Rheolwr Gwastraff Conwy, John Eastwood: "'Da ni `di edrych ar be' sy' yn y gwastraff, ac mae dros 50% o'r gwastraff sy'n cael ei roi i mewn i'r biniau du yn stwff sy'n gallu, a ddyla', gael ei roi yn y blychau ailgylchu a blychau bwyd 'da ni'n cynnig fel gwasanaeth."

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd John Eastwood bod llawer o bobl y sir yn fodlon ymdopi gyda chasgliadau'n llai aml

'Arbedion mawr'

Ychwanegodd mai casglu sbwriel yn llai aml fyddai'r opsiwn fyddai'n "cynyddu ailgylchu fwya'" a "galluogi arbedion mawr hefyd" yn lle gwario ar dirlenwi.

Dywedodd Mr Eastwood bod arolwg gan y sir o 11,000 o bobl wedi dod i'r canlyniad bod dros 55% o'r nifer yn gallu rheoli eu gwastraff gyda chasgliadau llai aml.

Ychwanegodd bod y cyngor yn ystyried mesurau ychwanegol fel casglu clytiau ar wahân, rhoi biniau ychwanegol i deuluoedd mwy a chasglu ailgylchu yn fwy aml ar adegau fel y Nadolig.

Os bydd y Pwyllgor Craffu o blaid y newid, yna fe fydd cabinet Cyngor Conwy yn trafod y syniad yn ddiweddarach yn y mis.