Meddygon teulu'n gwadu dynladdiad bachgen
- Cyhoeddwyd

Mae'r achos yn cymryd lle yn Llys y Goron Caerdydd
Mae dau feddyg teulu wedi ymddangos ger bron llys gan wadu honiad o ddynladdiad yn achos bachgen 12 oed o Fryn Ithel ger Abertyleri.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Ryan Morse wedi marw'n sydyn ar 8 Rhagfyr 2012.
Plediodd Dr Joanne Rudling a Dr Lindsey Thomas yn ddieuog i ladd Ryan Morse yn anghyfreithlon drwy esgeulustod difrifol.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddyn nhw fynd o flaen eu gwell mewn achos llys ar 3 Mai.