Cyhoeddi llywydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau wedi cyhoeddi mai Dr Elin Jones fydd llywydd yr Ŵyl eleni.
Bydd yn annerch cynulleidfa'r Pafiliwn o'r llwyfan yn ystod wythnos y brifwyl, fydd yn cael ei gynnal yn Nolydd y Castell, Y Fenni, rhwng 29 Gorffennaf - 6 Awst.
Mae Dr Elin Jones yn adnabyddus am ei chyfraniad arbennig i hanes Cymru ac i ymwybyddiaeth o afiechyd meddwl.
Cafodd ei hurddo er anrhydedd i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod y llynedd ar sail ei harbenigedd yn y meysydd hyn.
Mae hi'n byw yn Ystrad Mynach, sef bro ei mebyd, ar ôl blynyddoedd yng Nghaerdydd.
Hanes
Yn un o haneswyr blaenaf Cymru, mae hi'n gweithio fel ymgynghorydd annibynnol ym maes hanes, addysg, llywodraeth a gwleidyddiaeth ers dros ugain mlynedd.
Yn ogystal â'i gwaith ym maes hanes Cymru, hi yw Cadeirydd Ymddiriedolwyr Hafal, sef prif elusen iechyd meddwl Cymru.
Mae hi'n weithgar mewn nifer fawr o wahanol feysydd gan roi'i hamser i bob math o sefydliadau a chymdeithasau lleol a chenedlaethol.
Mae ei nifer o gyfrifoldebau'n cynnwys bod yn Llywydd Clwb Bechgyn a Merched Ystrad Mynach, Cadeirydd Merched y Wawr Cwm Rhymni a Chadeirydd Is-bwyllgor Addysg Confensiwn y Siartwyr, Casnewydd.