Atal digartrefedd: Cymru'n 'arwain y ffordd'
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru'n arwain y ffordd o ran polisi digartrefedd gyda deddfwriaeth "mwy blaengar" nag unrhyw le arall yn y DU, yn ôl arbenigwr.
Daw'r sylwadau ar drothwy digwyddiad i nodi 50 mlynedd o waith atal digartrefedd yng Nghaerdydd.
Y llynedd, fe wnaeth y gyfraith newid yng Nghymru, gan roi dyletswydd ar gynghorau i atal pobl rhag colli eu cartrefi.
Fodd bynnag, dywedodd Shelter Cymru bod "llawer iawn o waith" yn dal i'w wneud.
Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, sy'n cynnal y dathliad ddydd Mawrth ar y cyd gydag elusen Shelter.
'Blaengar'
Mae Suzanne Fitzpatrick o Brifysgol Heriot Watt yng Nghaeredin, sy'n awdurdod ar ddigartrefedd, wedi canmol y gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru.
Cyn iddi areithio yn y digwyddiad, dywedodd wrth y BBC Cymru fod "Cymru wedi sefydlu deddfwriaeth sy'n fwy blaengar na'r hyn a welir yn unman arall yn y DU".
"Mae Cymru yn wirioneddol, ar flaen y gad ble mae datblygu polisi digartrefedd yn y cwestiwn," meddai. "Mae'n ymddangos fod Cymru'n arwain y ffordd."
Fodd bynnag, mae'r Athro Fitzpatrick yn cydnabod bod y gyfraith newydd yn ei dyddiau cynnar, gan iddi ddod i rym ym mis Ebrill y llynedd.