Coleg cerdd a drama yn perfformio i Dywysog Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Tywysog Cymru wedi canmol perfformiadau gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Fe wnaeth y Tywysog ei sylwadau yn ystod digwyddiad ym Mhalas Buckingham i nodi pum mlynedd ers i'r coleg agor cyfleusterau newydd yng Nghaerdydd.
"Rwy'n gobeithio y byddwch yn gweld yn union pam yr wyf yn falch o fod yn noddwr i'r sefydliad mawreddog hon," meddai.
"Rwy wedi noddi'r coleg ers 16 mlynedd ac rwy'n teimlo llawenydd pob tro rwy'n ddigon ffodus i brofi'r talent sy'n cuddio y tu ôl i furiau'r sefydliad yma yng Nghaerdydd."
Roedd y Fonesig Shirley Bassey, Michael Sheen a Bryn Terfel ymhlith yr enwogion oedd yn gwylio perfformiadau gan fyfyrwyr y coleg yn y palas nos Lun.
Ellen Williams, Soprano gyda'r coleg, fu'n rhannu ei theimladau ar ôl y perfformiad
Darnau o Shakespeare a'r opera Tosca oedd wedi'u perfformio gan fyfyrwyr, tra wnaeth y pianydd 9 oed, Charlotte Kwok - sy'n cael ei dysgu yn y coleg - berfformio darn o'r enw 'The Prince' gan Frank Bridge.
Mae hi'n bum mlynedd ers agor ystafelloedd ymarfer a pherfformio newydd y coleg ar gyrion canol dinas Caerdydd, lle mae myfyrwyr yn dysgu sgiliau perfformio, technegol a chrefft.
Mae Ms Bassey yn noddi ysgoloriaethau i ddau fyfyriwr yn y coleg, a dywedodd wrth BBC Cymru ei bod yn teimlo angenrheidrwydd i noddi eu hyfforddiant.
"Dechreuais i ffwrdd gyda neb yn fy nghefnogi," meddai. "Doedd 'na ddim cefnogaeth pan ddechreuais i, doedd dim ysgolion neu goleg i mi.
"Fe wnes i lwyddo, ac rydw i'n awyddus nawr i gefnogi fy nhref enedigol, o ble ddes i - o'r dociau yng Nghaerdydd."
'Gwirioneddol wych'
Roedd Dayna Townsend, sy'n astudio ar gyfer gradd mewn perfformiad y ffidil, hefyd ymhlith y myfyrwyr i chwarae ym Mhalas Buckingham.
Dywedodd bod astudio yn y coleg yn brofiad "anhygoel".
"Mae'n anhygoel faint o gyfleoedd sydd ar gael yma," meddai. "Byddwch yn cael y cyfle i wneud cymaint o chwarae cerddorfaol, ac mae 'na gymaint o hyfforddi.
"Rydw i wedi llwyddo i gael tipyn o ddosbarthiadau meistr gyda llawer o chwaraewyr da.
"Beth sy'n wirioneddol wych am y coleg yw eu bod yn eich paratoi ar gyfer pob rhan o fod yn gerddor yn y dyfodol.
"Rydych yn cael cyrsiau i ddysgu sut i reoli eich hun fel cerddor hunangyflogedig, neu sut i ymddwyn mewn sefyllfa cerddorfaol.
"Byddwch yn ymarfer gwneud clyweliadau i gerddorfeydd, ond hefyd yn derbyn digon o gyfleoedd unigol."
Yn 2015, y coleg oedd y gorau o ganolfannau hyfforddi Prydain ar gyfer drama, ac mae'r sector ffilm a theledu wedi ehangu yng Nghymru ers agor yr adeiladau newydd.
Mae graddedigion diweddar wedi darparu eu harbenigedd technegol ar gynyrchiadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, gan gynnwys Da Vinci's Demons, tra bod myfyrwyr eraill wedi ymuno â chwmnïau theatr cenedlaethol a cherddorfeydd mawreddog.
'Byd-eang'
Dywedodd pennaeth y coleg, Hilary Boulding bod y datblygiadau yn y diwydiant wedi dod a chyfleoedd newydd i fyfyrwyr sy'n aros yng Nghymru, er bod graddedigion yn parhau i gymryd eu sgiliau ar draws y byd.
"Mae'r diwydiannau creadigol yn ddiwydiant byd-eang, felly mae'n rhaid i ni beidio stopio wrth y ffin," meddai. "Nid yw hynny'n rhan o'n meddylfryd.
"Rydym yn denu myfyrwyr o 30 o wledydd i astudio yma, ynghyd â'r gorau o'r myfyrwyr Cymreig sy'n gwneud cais.
"Bydd llawer ohonynt yn bennu lan yn gweithio yn Hollywood, Los Angeles, yn Ewrop, Singapore ac yn Asia pan fyddant yn gadael yma. Dyna yw natur y diwydiant.
"Fe welwch bod 'na alwad uchel am griwiau Prydeinig. Rydym yn disgwyl i'n myfyrwyr i greu rhwydweithiau rhyngwladol, ac rydym yn eu helpu i wneud hynny."