Cyngor Conwy: Cau tair ysgol wledig

  • Cyhoeddwyd
ysgolion gwledigFfynhonnell y llun, Cyngor conwy

Mae Cyngor Conwy wedi pleidleisio dros gau tair ysgol wledig yn Nyffryn Conwy.

Bydd Ysgolion Trefriw, Dolgarrog ac Ysgol Tal y Bont yn cau ym mis Awst 2017, gydag ysgol ardal newydd yn agor ar safle presennol Dolgarrog ym mis Medi'r un flwyddyn.

Fe ddaeth criw o ddisgyblion a rhieni o Ysgol Trefriw i brotestio y tu allan i swyddfeydd y cyngor cyn y cyfarfod cabinet.

Mae trigolion yn dadlau y bydd y cynllun yn bygwth dinistrio'r cymunedau gwledig, ac yn peryglu diogelwch y plant wrth iddyn nhw deithio i'r ysgol newydd ar hyd ffordd y B5106, sy'n diodde' llifogydd o bryd i'w gilydd.