Gwrandawiad: Athro 'wedi cusanu' disgybl ar drip ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae gwrandawiad disgyblu wedi clywed bod athro wedi cusanu disgybl 16 oed ar drip ysgol cyn dechrau perthynas rywiol gyda hi.
Clywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd bod Lee Lewis, 33 oed, wedi arwain y ferch i mewn i ogof am y gusan.
Fe honnir bod yr arweinydd gweithgareddau awyr agored yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn y Barri wedi cael perthynas rhywiol gyda'r ferch am ddwy flynedd.
Mae Mr Lewis yn wynebu saith cyhuddiad o ymddygiad annerbyniol.
Colli swydd
Clywodd y gwrandawiad bod Mr Lewis wedi dechrau dysgu'r ferch pan oedd hi'n 14 oed, ac roedd hi'n treulio un diwrnod yr wythnos yn y coleg ble roedd Mr Lewis yn dysgu.
Dywedodd y ferch, sydd nawr yn 18 oed ac yn cael ei chyfeirio fel Disgybl A yn gwrandawiad, bod y berthynas wedi dechrau ar drip ysgol i ddringo.
Yn ôl y ferch, fe wnaeth Mr Lewis ofyn iddi gadw'r berthynas yn ddirgel, gan ddweud y byddai'n colli ei swydd.
Ym mis Chwefror 2015, ar ôl dwy flynedd o berthynas, dywedodd y ferch bod Mr Lewis wedi ei dechrau ei "cham-drin yn emosiynol", gan ei chyhuddo o beidio treulio digon o amser gydag ef.
Dywedodd Disgybl A ei fod wedi dechrau ei dilyn hi, a'i fod wedi bygwth dweud wrth ei mam am y berthynas.
Clywodd y gwrandawiad bod y ferch wedi gorffen y berthynas, ond bod Mr Lewis wedi parhau i yrru negeseuon ati ac wedi bygwth lladd ei hun.
Fe wnaeth Disgybl A ddweud wrth staff am y berthynas ym mis Mehefin 2015 a chafodd Mr Lewis ei riportio i'r awdurdodau addysg.
Ni wnaeth Mr Lewis ymddangos yn y gwrandawiad, sy'n parhau.