Cwest Cheryl James: 'Amheuon' am hunanladdiad

  • Cyhoeddwyd
Cheryl James
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Cheryl James ym marics Deepcut yn 1995

Mae cwest wedi clywed bod cwestiynau difrifol wedi codi mor bell yn ôl a 2002 gan yr heddlu am farwolaeth milwr o Gymru mewn gwersyll milwrol ymysg honiadau o fwlio.

Daeth y fyddin i'r casgliad bod Cheryl James, oedd yn 18 oed ag o Langollen, wedi lladd ei hun ym marics Deepcut yn 1995.

Mae cwest newydd yn cael ei gynnal yn Woking, Surrey, wedi i Heddlu Surrey orfod datguddio tystiolaeth oedd heb ei ryddhau o'r blaen.

Dywedodd tad Preifat James, Des James wrth y cwest ddydd Mawrth nad oedd unrhyw awgrym bod ei ferch yn dioddef o salwch meddwl, ac roedd yn credu bod digwyddiad pan lyncodd ei ferch dabledi paracetamol ychydig flynyddoedd cyn ei marwolaeth yn gamgymeriad ar ei rhan ar y pryd.

Clywodd y cwest bod Preifat James wedi ysgrifennu at ffrind yn nodi ei bod mewn cariad a'i bod yn edrych ymlaen at gael dychwelyd adref dim ond wyth diwrnod cyn ei marwolaeth.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae tad Cheryl James, Des wedi bod yn rhoi tystiolaeth i'r cwest yn Woking

Dywedodd y fargyfreithwraig Alison Foster QC ar ran y teulu bod Heddlu Surrey wedi cwestiynu dadansoddiad y fyddin bod Cheryl wedi lladd ei hun, o achos y ffordd yr oedd ei chorff wedi ei ddarganfod yn y gwersyll.

"Doedd dim anaf lle byddai bwled wedi dod allan, mae'n ymddangos nad oedd gwaed ar y llawr, a'r ffordd yr oedd rhan o'i gwisg yn cuddio ei hwyneb," meddai.

Yn ôl y datganiad, ni fyddai un o'r arwyddion yma wedi creu amheuon, ond gyda'i gilydd "maent yn gofyn cwestiynau am y ffordd y bu Preifat James farw".

Dywedodd Des James fod y datganiad yn cadarnhau amheuon ef a'i wraig ar y pryd am "pa mor drwyadl oedd yr ymholiadau" gan Heddlu Surrey.

"Yn amlwg mae'n rhaid bod rhywbeth arall... does dim modd i chi fod yn chwerthin a dweud jôcs un funud ac yna mynd i'r coed cyn gwneud yr hyn sy'n honedig wedi digwydd."

Mae'r cwest yn parhau.