Marwolaeth cerddwr yn 'ddamweiniol' meddai crwner
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed nad oedd dyn yn ymwybodol ei fod yn dioddef o gyflwr allai fod wedi effeithio ar ei yrru pan darodd ei gerbyd yn erbyn cerddwr ar ffordd cefn gwlad ger yr Wyddgrug.
Bu farw Frederick Starkey, 93 oed, ar 21 Hydref, 2014, o'r anafiadau a ddioddefodd yn y gwrthdrawiad. Diwrnod yn ddiweddarach fe wnaeth gyrrwr y car, Gary Lewis, ddarganfod fod ganddo diwmor ar ei ymennydd, ac y gallai hyn fod wedi effeithio ar ei olwg.
Clywodd y cwest ddatganiad gan heddwas oedd wedi ymchwilio amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Dywedodd y datganiad gan PC Brian Grocott fod Mr Lewis wedi dweud yn syth ar ôl y gwrthdrawiad nad oedd ganddo unrhyw gyflwr meddygol allai fod wedi effeithio ar ei yrru. Roedd wedi bod am brawf gwaed yn gynharach y diwrnod hwnnw am ei fod yn dioddef cur pen.
Ond fe ddaeth yn amlwg yn ddiweddarach ar ôl y gwrthdrawiad bod Mr Lewis yn dioddef gyda thiwmor ar yr ymennydd ac o ganlyniad roedd yn ddifrifol wael.
Roedd Mr Starkey o Bant-y-mwyn, yn cerdded ar hyd Ffordd Cefn Bychan ar 30 Medi, 2014, pan gafodd ei daro gan gar Vauxhall Corsa Mr Lewis.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam, cyn cael ei symud i ysbyty yn Lerpwl, lle bu farw 21 diwrnod yn ddiweddarach. Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad ei fod wedi marw o niwmonia a methiant ei galon o achos ei anafiadau difrifol.
O achos cyflwr meddygol Mr Lewis, ni wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ddwyn achos yn ei erbyn.
Wrth gofnodi marwolaeth ddamweiniol, dywedodd y crwner John Gittins nad oedd amheuon mai'r anafiadau a ddioddefodd yn y gwrthdrawiad oedd yn gyfrifol am farwolaeth Mr Starkey.