Gobaith y bydd Biggar yn ffit

  • Cyhoeddwyd
anafFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Does dim penderfyniad wedi ei wneud a fydd maswr Cymru Dan Biggar yn holliach i wynebu'r Alban y penwythnos hwn, medd Undeb Rygbi Cymru.

Bu'n rhaid i Biggar adael y maes yn y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sul gydag anaf i'w ffêr.

Wrth adael y stadiwm roedd ar faglau, ac yn gwisgo esgid arbennig i warchod ei goes.

Cafodd yr anaf ei ddisgrifio gan hyfforddwr Cymru Warren Gatland fel "sigiad uchel i'w ffêr", ac roedd pryderon yn wreiddiol y byddai'r chwaraewr 26 oed yn absennol am gyfnod hir.

Ond mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Mae Dan Biggar wedi gwella'n wych yn dilyn yr anaf i'w ffêr.

"Mae'r arwyddion ar hyn o bryd yn awgrymu na fydd yn anaf tymor hir.

"Fe fydd penderfyniad am ei argaeledd i wynebu'r Alban y penwythnos hwn yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn yr wythnos".

Roedd disgwyl i Warren Gatland gyhoeddi'r tîm fydd yn croesawu'r Alban i Gaerdydd brynhawn Mercher, ond mae hynny wedi cael ei ohirio tan ddydd Iau, 11 Chwefror, bellach.