Buddsoddi £85m mewn hyfforddiant iechyd
- Cyhoeddwyd

Bydd nifer y llefydd hyfforddi nyrsys sydd ar gael yn cynyddu o 10% yn 2016-17 fel rhan o fuddsoddiad o £85m gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y bydd nifer y llefydd hyfforddi yn codi o 135 i 1,418, a bod hynny ar ben cynnydd o 22% yn 2015-16.
Dyma fydd y nifer uchaf o lefydd hyfforddi nyrsys sydd ar gael ar gyfer Cymru ers datganoli.
Mae'r buddsoddiad o £85m hefyd yn cynnwys:
- Cynnydd o fwy na 10% mewn llefydd hyfforddi ffisiotherapyddion;
- Cynnydd o fwy na 10% mewn llefydd hyfforddi radiolegwyr diagnostig;
- Cynnydd o 5% mewn llefydd hyfforddi radiolegwyr therapiwtig.
Fe ddywed Llywodraeth Cymru y bydd y buddsoddiad yn golygu bod 2,697 o fyfyrwyr newydd yn dechrau ar raglenni hyfforddiant yn 2016-17, ond bydd y pecyn ariannol hefyd yn talu am gyfleoedd hyfforddi i staff presennol y gwasanaeth iechyd sydd - am amryw resymau - wedi cymryd hoe o'u gyrfaoedd.
'Pwysau ariannol'
Dywedodd Mark Drakeford: "Staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda sydd wrth galon y GIG yng Nghymru - bydd y buddsoddiad yma o £85m yn mynd tuag at ddatblygu'r genhedlaeth nesaf fydd yn darparu gofal iechyd i'r genedl.
"Mae'r buddsoddiad yn seiliedig ar yr hyn y mae sefydliadau GIG wedi dweud wrthym sydd angen i gynnal gwasanaethau.
"Er gwaetha'r pwysau ariannol dros y blynyddoedd diweddar, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant ac addysg i bobl broffesiynol iechyd yng Nghymru. Dyw eleni'n ddim gwahanol."
Mae nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru bellach yn 84,000 - cynnydd o draean ers 1999.