Lagŵn: Angen penderfyniad ar frys

  • Cyhoeddwyd
Artist impression of Swansea tidal lagoonFfynhonnell y llun, Tidal Lagoon Power
Disgrifiad o’r llun,
Llun artist o'r Lagwn

Mae'r cwmni tu ôl i'r lagŵn llanw arfaethedig ym Mae Abertawe wedi rhybuddio llywodraeth y DU bod angen penderfynu a fydd yn cefnogi'r cynllun o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae'r gwaith ar bwerdy lagŵn llanw cynta'r byd eisoes wedi cael ei ohirio am flwyddyn wedi i drafodaethau am faint o arian cyhoeddus sydd angen ar y fenter fethu.

Wrth siarad gyda'r BBC, dywedodd pennaeth Tidal Lagoon Power bod angen ateb terfynol "o fewn y 4-6 wythnos nesaf" neu fe fydd y cynllun yn mynd i drafferthion.

Fe ddywed Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan (DECC) eu bod "yn ystyried cynllun Bae Abertawe yn ofalus er mwyn asesu a yw o fudd i'r trethdalwr".

Gallai lagŵn Abertawe fod y cyntaf o chwech ar hyd arfordir Prydain, gyda thyrbinau'n cael eu gosod mewn morglawdd i greu ynni yn ystod llanw a thrai.

Honnir y bydd y lagwnau'n gallu cynhyrchu 8% o holl ofynion ynni'r DU, ond mae'r gost o'u sefydlu'n cael ei weld yn afresymol o uchel.

Dywedodd Mark Sharrock - Prif Weithredwr Tidal Lagoon Power: "Rwyn' credu ein bod wedi dangos y buddion i'r llywodraeth... mae'n rhaid i ni ddechrau gweithio yn y dŵr ym Mawrth 2017, felly mae'n bwysig iawn i ni gael penderfyniad nawr, dros y 4-6 wythnos nesaf."

Pan ddechreuodd y trafodaethau flwyddyn yn ôl, roedd y cwmni'n gofyn am bris o £168/MWh am y trydan y byddai'n cynhyrchu, gyda llywodraeth y DU yn rhoi cymhorthdal at hynny am 35 mlynedd.

Mae'r pris yna'n sylweddol uwch na'r £96.50/MWh sydd wedi'i gytuno ar gyfer atomfa newydd yn Hinkley, ond credir bod cytundeb ar ei ffordd fyddai'n cynnig £96.50 i lagŵn Abertawe, ond gyda'r cymhorthdal yn para am 90 mlynedd.

Roedd y lagŵn yn Abertawe yn rhan o faniffesto'r Ceidwadwyr cyn Etholiad Cyffredinol 2015, ond mae pryder wedi bod am ei ddyfodol ers i David Cameron ddweud ym mis Ionawr bod ei frwdfrydedd am y lagŵn "wedi lliniaru rhywfaint gan y ffaith y bydd y gost mor uchel".

Mae pwysau wedi cynyddu'n ddiweddar yn dilyn y cyhoeddiad bod 700 o swyddi'n diflannu yn yr ardal, sef swyddi cwmni dur Tata ym Mhort Talbot.