Cyllideb: Tro pedol i rai o'r toriadau addysg uwch
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio bwrw mlaen â rhai o'r toriadau oedd wedi eu cynllunio ar gyfer addysg uwch a chynghorau.
Roedd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn wynebu £42m yn llai, oedd yn rhyw draean o'i gyllideb.
Mewn dadl ar gyllideb ddrafft 2016-17, dywedodd y gweinidog cyllid, Jane Hutt, wrth Aelodau Cynulliad na fydd £31m o'r toriadau hynny'n digwydd bellach.
Bydd Powys, Ceredigion a Sir Fynwy yn rhannu £2.5m yn ychwanegol ar ôl cael toriadau o dros 3% yn wreiddiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gweinidogion wedi gwrando ar bryderon am yr effaith ar weithio rhan amser ac ymchwil prifysgolion.
Gyda Llafur o blaid a'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn, roedd penderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol i ymatal ei phleidlais yn galluogi'r gyllideb i basio.
'Balch'
Dywedodd Ms Hutt bod y llywodraeth wedi "addasu" rhai o'i chynlluniau ble roedd "tystiolaeth rymus" er mwyn cefnogi ei blaenoriaethau.
"Rydym yn hyderus bod ein cynlluniau'r rhai cywir i fuddsoddi yn nyfodol Cymru - eu bod yn ffordd glir ymlaen i gefnogi twf swyddi a'r gwasanaethau pwysicaf i bobl Cymru," meddai.
Serch hynny, bydd yn rhaid i CCAUC ddod o hyd i arbedion o £11m. Dywedodd llefarydd ran y corff: "Byddai toriad o 32% wedi cael effaith gwirioneddol ar allu prifysgolion i gyrraedd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
"Rydym yn falch bod cyfraniad prifysgolion Cymru i'r economi a chymdeithas Cymru wedi cael ei gydnabod."
Cytundeb
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi hawlio buddugoliaeth wedi i'r tri chyngor gael llai o doriad.
Mae'r gyllideb yn ganlyniad i gytundeb dwy flynedd rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur wedi i arian ychwanegol gael ei roi i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2016