Car ar dân yng ynghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi diffodd car ar dân yng nghanol Caerdydd.
Cafodd y diffoddwyr tân eu galw i'r digwyddiad ger tafarn y Prince of Wales ar Heol y Porth ychydig cyn 16:10 brynhawn Mawrth.
Dywedodd y gwasanaeth tân bod achos y tân yn ddamweiniol.
Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael anaf yn y digwyddiad.