'Dim sicrwydd' ar ddyfodol swyddi yn y diwydiant dur

  • Cyhoeddwyd
Baner UniteFfynhonnell y llun, PA

Mae uwch-swyddog gyda Tata wedi dweud wrth Aelodau Seneddol nad oes sicrwydd y bydd y diwydiant dur yn osgoi mwy o ddiswyddiadau.

Roedd y Pwyllgor Materion Cymreig yn clywed tystiolaeth wedi i'r cwmni ddiswyddo dros 1,000 o weithwyr yn y DU, gan gynnwys 750 ym Mhort Talbot.

Dywedodd Stuart Wilkie o Tata bod angen gostwng costau ynni ac i'r Undeb Ewropeaidd weithredu i fynd i'r afael â mewnforion rhad.

Yn ôl y Gweinidog Busnes, Anna Soubry, mae iawndal wedi ei addo ond dywedodd nad oedd hi'n gwybod pam ei fod yn cymryd cymaint o amser.

Problem byd-eang

Fe ofynnodd AS Gogledd Caerdydd, Craig Williams, os allai mwy o bobl golli eu swyddi gyda Tata a chwmnïau eraill.

Dywedodd Mr Wilkie nad oedd yn gallu sicrhau swyddi i'r gweithwyr.

Ychwanegodd Tim Morris, pennaeth materion cyhoeddus Tata yn Ewrop, bod y broblem yn un byd-eang, gyda phobl yn colli swyddi yn yr Unol Daleithiau ac ar draws Ewrop.

Dywedodd bod Tata wedi bod yn disgwyl am ddwy flynedd am help gan y wladwriaeth, a'u bod yn disgwyl iddo gyrraedd ym mis Mawrth.