Gostyngiad yn elw cymdeithas adeiladu y Principality
- Published
Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi gweld gostyngiad yn eu helw blynyddol cyn treth o'r £53.3m yn 2014 i £49m y llynedd, yn ôl eu ffigyrau diweddara.
Mae eu canlyniadau yn dangos bod y cwmni Cymreig wedi helpu 3,500 o bobl y llynedd i brynu tŷ am y tro cyntaf - sy'n gynnydd o 1,200 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Y cwmni sydd a'i bencadlys yng Nghaerdydd, yw'r gymdeithas adeiladu fwyaf yng Nghymru a'r chweched mwyaf yn y DU.
Mae gan y Principality 53 o ganghennau ac 18 asiantaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y gymdeithas adeiladu eu bod wedi benthyca dros £5biliwn o arian morgais am y tro cyntaf yn ei hanes.