Cau canolfan y Chapter
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd gau ei drysau nos Fawrth 'oherwydd rhesymau diogelwch.'
Fe wnaeth y Ganolfan drydar i ddweud "Bydd Chapter yn parhau i fod wedi cau heno. Diolch i'n cwsmeriaid am fod mor amyneddgar."
Dywedodd neges arall y dylai rhai wnaeth fethu a gweld perfformiad oherwydd ei fod wedi ei ganslo gysylltu â'r ganolfan ddydd Mercher er mwyn cael ad-daliad.
Yn ôl rhai adroddiadau roedd arogl nwy yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd bod peiriannydd o gwmni Wales and West Utilities "bellach wedi cadarnhau nad oes problem nwy ac felly byddwn yn agor bore fory fel arfer."
Ffynhonnell y llun, other