Deepcut: Gweld milwyr newydd fel 'sialens rywiol'
- Cyhoeddwyd

Mae'r fyddin wedi cyfaddef bod ei swyddogion yn gweld recriwtiaid newydd fel "sialens rywiol" mewn gwersyll ble fu farw milwr ifanc o Langollen.
Clywodd y cwest gan y Brigadydd John Donnelly, a fu'n gyfrifol am les yn y fyddin. Dywedodd nad oedd "pawb" ar y pryd yn arddel "gwerthoedd" y lluoedd.
Cafwyd hyd i gorff y Preifat Cheryl James, 18 oed, yng ngwersyll Deepcut ym mis Tachwedd 1995 gyda bwled yn ei phen.
Roedd hi'n un o bedwar o filwyr a gafodd eu canfod yn farw gydag anafiadau yn y gwersyll rhwng 1995 a 2002 - y pedwar wedi eu saethu.
Fe gofnododd y cwest gwreiddiol reithfarn agored, ond fis Gorffennaf y llynedd cafodd cwest newydd ei orchymyn.
'Problem'
Gofynnodd Cwnsler y crwner, Bridget Dolan: "Ydi'r fyddin yn derbyn bod rhai swyddogion yn gweld recriwtiaid fel sialens rywiol?"
Dywedodd y Brigadydd Donnell : "Ydyn, yn anffodus nid pawb wnaeth arddel y gwerthoedd yr oeddem yn ddymuno.
"Dydi hi ddim yn broblem sy'n unigryw i'r fyddin a byddwn yn cydnabod bod rhai elfennau o ddiwylliant y fyddin allai gryfhau."
Clywodd y cwest bod nifer fawr o filwyr yn disgwyl am hyfforddiant yn y gwersyll ar y pryd.
Roedd yr oedi yn golygu bod rhai ohonyn nhw "wedi syrffedu" gyda hynny'n arwain "annisgyblaeth".
Yn dilyn marwolaeth y Preifat James, daeth adroddiad i'r casglaid nad oedd gan y fyddin y gallu i ddelio gyda rhai o'r materion a godwyd gan filwyr ifanc.
Mae'r cwest yn parhau.